PWYLLGOR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD

 

YMCHWILIAD I AILGYLCHU YNG NGHYMRU

 

TYSTIOLAETH LLYWODRAETH CYMRU

 

Cyflwyniad

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar am y cyfle i roi tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor ac i allu ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaethpwyd gan ymatebwyr yn eu tystiolaeth. 

 

Byddwn yn gyntaf yn gosod cyd-destun polisi Llywodraeth Cymru ynghych ailgylchu cyn ystyried yr atebion i'r cwestiynau penodol.  Mae polisi Llywodraeth Cymru ar ailgylchu yn cyd-fynd â bwriad Gweinidogion Cymru o wneud datblygu cynaliadwy yn thema trawsbynciol sydd yn ganolog i bolisïau - i gefnogi ei dyletswydd statudol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.  Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn gosod y nod ar gyfer Cymru 'I fod yn "genedl un blaned", sy'n sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn ganolog i lywodraeth.'  Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ôl troed ecolegol fel ffordd o fesur a yw'n cyflawni ei hymrwymiadau datblygu cynaliadwy, h.y. ei nod yn y ddogfen Un Blaned.   Blaenoriaeth ailgylchu yng Nghymru yw helpu i liniarnu y newid yn yr hinsawdd a lleihau ôl troed ecolegol Cymru trwy leihau y defnydd cyffredinol o adnoddau sylfaenol.  Ar yr un pryd, mae ailgylchu yn elfen bwysig o'r ymdrech tuag at sicrhau economi gylchol i Gymru, ble y mae deunydd gwerthfawr, a mwymwy prin, yn cael eu cadw i gylchdroi o fewn economi  Cymru yn hytrach na chael eu colli drwy losgi neu dirlenwi.  Mae Sefydliad Ellen MacArthur wedi nodi y dylai economi gylchol arwain at arbedion blynyddol o rhwng £0.9 biliwn a £1.9 biliwn i Economi Cymru.

 

Pe byddai gan bawb yn y byd yr un patrwm defnyddio â'r person cyfartalog yng Nghymru, yna byddai angen gwerth tair planed o adnoddau i fodloni eu hanghenion.   Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi Cymru ar lwybr o ddefnyddio gwerth tair planed i ddefnyddio gwerth un blaned o adnoddau (ac felly 'fyw o fewn ein terfynau amgylcheddol').  Fel a bennir yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff (2010), mae hyn yn cynnwys lleihau y defnydd o ddeunyddiau, gan gynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosib, a ble y mae hynny'n digwydd, sicrhau ei fod yn cael ei ailddefnyddio a'i ailgylchu.  O ran ailgylchu, mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn pennu, erbyn y flwyddyn 2025, fod yn rhaid i'r  gyfradd ailgylchu ar draws pob sector economaidd o economi Cymru fod yn 70%.  Mae Cymru yn gweithio tuag at darged ailgylchu o 100% erbyn 2050.  Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn ei gwneud yn ofynnol i'r ailgylchu hwn fod yn 'ddolen gaeedig' neu'n 'uwch-gylchu', a thrwy hynny gyfrannu tuag at gyflawni economi gylchol.  Golyga 'dolen gaeedig' broses ailgylchu ble y caiff y deunyddiau eu defnyddio'n barhaus at yr un diben, er enghraifft potel wydr sy'n cael ei halgylchu yn gynnyrch gwydr newydd yn hytrach na chael ei hisraddio (er enghraifft cael ei defnyddio fel agreg).  Golyga 'uwch-gylchu' ailgylchu sy'n ychwanegu gwerth (e.e. yn gwella manteision nwyon tŷ gwydr - fel defndydio papur newydd gwastraff i greu cynnyrch insiwleiddio).   

 

Mae polisi Llywodraeth Cymru ar ailgylchu felly'n dechrau gyda'r nod o ostwng yr ôl troed ecolegol cymaint â phosib er mwyn helpu i gyrraedd y nod o ddefnyddio adnoddau un blaned a darparu economi gylchol yng Nghymru.  Mae polisïau Llywodraeth Cymru o ran hyn yn hollol gyson gyda deddfwriaeth yr UE a'r amcanion polisi, yn enwedig Roadmap to a Resource Efficient Europe yr UE a'r Seventh Environmental Action Programme. 

 

Ymchwilio i'r rhesymau dros yr amrywiadau mewn arferion ailgylchu gwastraff tai awdurdodau lleol yng Nghymru, ac effeithiau'r amrywiadau hyn. 

 

Cafodd y dystiolaeth am y rhesymau dros yr amrywiadau yn y gwasanaethau ailgylchu o fewn awdurdodau lleol, ac effaith hyn ei ddarparu gan nifer o ymatebwyr.  Mae nifer o resymau am yr amrywiad hwn, gan gynnwys cynsail hanesyddol, y technolegau a'r asesiadau sydd ar gael gan awdurdodau lleol ynghylch y dullai y maent hwy yn gredu fyddai fwyaf addas ar gyfer eu hardaloedd.  Bydd yr asesiadau hyn yn adlewyrchu y targedau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu cyrraedd, yn hytrach na, o angenrheidrwydd, i gyflawni amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys lleihau ôl troed ecolegol cymaint â phosib ac amcanion datblygu cynaliadwy eraill.      

 

Dywedodd Pwyllgor Cynghori ar Ailgylchu yr Awdurdodau Lleol (LARAC):  "Mae LARAC yn credu y dylid penderfynu ar ansawdd deunydd yn ôl gofynion yr ailbroseswyr." 

 

Dim ond pan fo ailbroseswyr yn cyfrannu at ailgylchu o safon uchel y mae hyn yn wir - sy'n cydfynd â strategaethau a chyfreithiau yr Undeb Ewropeaidd.  Mae gwahanol ailbroseswyr yn gweithredu i safonau amgylcheddol a masnachol gwahanol.  Fodd bynnag, un nodwedd o'r amrywiaeth o fewn arferion ailgylchu yw'r diffyg cysondeb wrth gyflwyno deunyddiau i ailbroseswyr - a'r goblygiadau amgylcheddol ac economaidd sy'n dilyn. 

 

Mae LARAC hefyd yn dadlau bod amgylchiadau'n golygu nad oes modd defnyddio'r dull Glasbrint yn gyffredinol:  

 

“Mae'r ffaith bod systemau casglu sydd ddim yn cyd-fynd â'r Patrwm yn rhoi lefelau uchel o ddeunyddiau sydd â marchnad derfynol yn dangos bod angen i amgylchiadau lleol ddylanwadu ar systemau casglu."  

 

Mae'n wir bod rhai gwasanaethau casglu sydd ddim yn cyd-fynd â'r Glasbrint yn nodi cyfraddau ailgylchu uchel.  Fodd  bynnag, datblygwyd y Glasbrint Casgliadau i gynghori awdurdodau lleol ar sut i sicrhau cydbwysedd rhwng cyfraddau uchel o ailgylchu, costau isel a'r canlyniadau amgylcheddol gorau (sy'n cael ei fesur gan effaith ôl troed ecolegol).  Nid yw cael marchnad derfynol yn ddigon; mae'n rhaid eu bod yn farchnadoedd terfynol sy'n cyfrannu at ailgylchu o safon uchel.   Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gellid cael amgylchiadau o fewn ardaloedd yr awdurdod lleol ble nad yw'r Glasbrint (sef casglu deunyddiau ar wahân mwy neu lai) yn ymarferol.  Mewn amgylchiadau o'r fath, dylid defnyddio y 'prawf TEEP' (fel a ddarperir gan Erthygl 11 Cyfarwyddyd Fframwaith Gwastraff yr UE, fel a drawsosodwyd yng Nghymru o dan Reoliad 13 Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (fel a ddiwygiwyd)) a dylid darparu gwasanaethau sy'n fwy addas ar gyfer yr amgylchiadau hynny.  Mae'r prawf TEEP yn profi a yw casgliadau ar wahân yn ymarferol yn dechnegol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.  Ar lefel yr awdurdod lleol, fodd bynnag, barn Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth, yw bod casgliadau ar wahân yn bosibl ym mhob math o awdurdod lleol, gyda rhai ardaloedd neu rhai mathau o eiddo yn galw am randdirymiad o bosib. 

 

O dan y Rhaglen Newid Gydweithredol, mae'n bosibl i awdurdodau lleol ofyn am adolygu'r gwasanaethau casgliadau cyfan a bod y dull Glasbrint yn cael ei brofi yn seiliedig ar amgylchiadau unigol yr awdurdodau hynny. 

I ba raddau y mae arferion ailgylchu awdurdodau lleol yn gydnaws â phatrwm casgliadau Cynllun Sector Gwastraff Trefol Llywodraeth Cymru, ac edrych beth yw'r rhwystrau a'r hwyluswyr i ymlynu.

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydymffurfio â'r gofyniad i wneud casgliadau ar wahân fel a nodir yn Rheoliad 13 Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, fel a ddiwygwyd.  Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chwmnïau rheoli gwastraff preifat sefydlu, erbyn 1 Ionawr 2015, gasgliadau ar wahân ar gyfer papur, gwydr, metal a phlastig ble y bo angen hynny er mwyn sicrhau ailgylchu o safon uchel, a'i fod yn ymarferol yn dechnegol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.  Nid yw cymysgu wrth ailgylchu yn gasglu ar wahân.  Barn Llywodraeth Cymru yw nad yw'r gwasanaeth Patrwm Casgliadau yn gydnaws â Rheoliad 13 (fel y'i diwygwyd).   

Mae gan yr awdurdodau lleol canlynol, neu maent wedi cyhoeddi bwriad i gael, gwasanaethau sy'n cyd-fynd â'r Glasbrint Casgliadau: Ynys Môn, Conwy; Powys; Casnewydd; Torfaen; Pen-y-Bont ar Ogwr; Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.  Mae Castell-nedd Port Talbot yn treialu'r Glasbrint ac mae'n bosibl y byddant yn ei fabwysiadu'n fuan. 

Hefyd, mae nifer o awdurdodau sy'n darparu casgliadau ar-wahân, sy'n casglu ar ochr y ffordd, a sydd, er nad ydynt yn Lasbrint, yn cyd-fynd yn agos a'r cynllun hwn:  Gwynedd, Sir Fflint a Wrecsam.  Mae Abertawe yn darparu gwasanaeth gwahanu gwastraff sydd, er nad yw yn casglu ar ochr y ffordd, mae'n bwriadu cydymffurfio â'r gofynion o gasglu ar wahân, sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2015. 

O'r naw o awdurdodau lleol sy'n weddill, mae Sir Fynwy, Caerdydd, Rhondda Cynon Tâf a Cheredigion ar hyn o bryd yn edrych ar yr opsiynau o ran cyflenwi'r gwasanaeth.  Nid yw Sir Ddinbych, Caerffili, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ystyried dewis amgen i gasgliadau cymysg. 

Cyngor yw Patrwm Casgliadau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn hytrach na'i fod yn orfodol i awdurdodau lleol.  Mae'n cynnig dull o ailgylchu sy'n rhoi y cyfleoedd gorau i Lywodraeth Cymru: 

·       i leihau ôl troed ecolegol;

·       i gael gwasanaethau ailgylchu rhatach; ac

·       o ran defnyddio adnoddau’n effeithlon a'i gwneud yn haws i ddeunyddiau o safon uchel gael eu cadw o fewn yr economi gylchol. 

 

Mae'r ffynonellau tystiolaeth sydd wedi llywio'r Patrwm i'w gweld yn Atodiad 1. 

Mae manteision mabwysiadu'r Patrwm yn ehangach yn cynnwys sicrhau y manteision sy'n cael eu rhestru uchod.  Maent hefyd yn cynnwys y posibilrwydd o safoni gwasanaethau, lleihau costau a chaffael fflydau a chynhwyswyr sydd â'r gwerth gorau am arian.  Mae y rhwystrau i fabwysiadu y Patrwm yn ehangach yn cynnwys amharodrwydd rhai i dderbyn sylfaen dystiolaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi'r dull hwn o weithio.  Ble nad oes amharodrwydd o'r fath, y rhwystr yn bennaf yw costau cyfalaf gwneud newid o'r fath.  Gallai'r gost hon gael ei lliniaru drwy sicrhau bod y newidiadau i'r gwasanaeth yn cyd-fynd â diwedd contractau ar gyfer cerbydau ac ati.  

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi tynnu sylw at y ffaith mai'r rheswm nad yw'r Patrwm yn cael ei ddilyn yn gyffredinol yw bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cynaliadwyedd ac yn anwybyddu elfennau eraill: 

 

“Mae strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru ac ymgynghoriad Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Ddiwygiedig yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd yn unig, ac eto dim ond un o'r pethau sydd angen eu hystyried yw cynaliadwyedd wrth inni gyflawni ein swyddogaethau statudol." 

 

Mae'n iawn bod strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru yn dechrau o safbwynt amgylcheddol a chynaliadwyedd; fodd bynnag, mae'r olaf hefyd yn cynnwys amcanion economaidd a chymdeithasol.  Nod y strategaeth wastraff yw cyfrannu cymaint â phosib tuag at leihau effaith yr ôl troed ecolegol cyffredinol, ac i ddarparu canlyniadau economaidd a chymdeithasol da ar yr un pryd, a lleihau costau y gwasanaeth.    Mae data sy'n cael ei gasglu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a'r modelu sydd wedi'i wneud gan ac ar ran Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau i nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn awgrymu y bydd y Patrwm Casgliadau yn arbed arian yn ogystal â sicrhau y canlyniadau gorau o ran datblygu cynaliadwy.  Mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r ymgynghorwyr Eunomia, ddaeth i'r casgliad, wrth gyrraedd lefelau uwch o ailgylchu, y byddai arbedion ariannol y Patrwm Casgliadau yn cynyddu - gan gyrraedd oddeutu £20 miliwn y flwyddyn.   

 

Mae safbwynt Cyngor Sir Fynwy yn adlewyrchu barn nifer o awdurdodau lleol, ac mae'n ymddengys ei fod yn gysylltiedig â'u dehongliad o Adran 2 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009:  

 

Dyletswydd gyffredinol mewn perthynas â gwella

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer ei swyddogaethau.

(2)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod roi sylw penodol i'r angen am wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—

(a)effeithiolrwydd strategol;

(b)ansawdd gwasanaethau;

(c)argaeledd gwasanaethau;

(d)tegwch;

(e)cynaliadwyedd;

(f)effeithlonrwydd; ac

(g)arloesi.

 

(3)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (2), gweler adran 4.

Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod y Patrwm Casgliadau yn hyrwyddo effeithiolrwydd strategol, yn gwella ansawdd y gwasanaeth, yn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael yn haws, yn deg, yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn hyrwyddo arloesedd.  Nid oes unrhyw wrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo y Patrwm Casgliadau a gwasanaethau o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.  Hefyd, barn Llywodraeth Cymru yw bod y Patrwm Casgliadau yn cydymffurfio â'r gyfraith yn gyfan-gwbl. 

 

Asesu a yw gwybodaeth ac arweiniad ar gael i ddeiliaid tai ynglŷn â pham a sut y dylent fod yn ailgylchu, ac edrych ar beth yw’r rhwystrau posibl, a beth yw’r hwyluswyr i wella cyfraddau ailgylchu.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cynllun Craff am Wastraff Llywodraeth Cymru (sy'n cael ei gynnal gan CLlLC) i gyflwyno negeseuon am ailgylchu a chefnogi awdurdodau lleol i drosglwyddo negeseuon.   Po fwyaf safonol yw'r gwasanaethau ailgylchu ledled Cymru, po hawsaf, a'r mwyaf cost effeithiol yw i'r Cynllun Craff am Wastraffddefnyddio negeseuon ledled Cymru gyda themau cyson. 

 

Unwaith y mae deiliaid tai a busnesau yng Nghymru yn deall yr hyn sydd i'w ddisgwyl ganddynt o ran cymeryd rhan mewn gwasanaethau ailgylchu, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cymeryd rhan.  Mae hyn yn digwydd waeth beth yw'r dull ailgylchu sy'n cael ei ddefnyddio.  Mae'r rhwystrau i ailgylchu mwy yn cynnwys y math o wastraff (e.e. deunydd pacio cyfansawdd amlddeunydd), capasiti ailbrosesu addas (e.e. ar gyfer cynnyrch hylendid sy'n amsugno) a'r prisiau newidiol ar gyfer deunydd ailgylchu.  Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen iddi weithredu ymhellach i helpu i oresgyn y rhwystrau hyn ac yn gweithio gyda'i hasiantaethau cyflenwi er mwyn sicrhau hyn. 

 

Ymchwilio i ymateb awdurdodau lleol i’r Trywydd Rheoliadau Gwastraff a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac effeithiau a goblygiadau posibl hwn ar arferion ailgylchu ledled Cymru.

 

Bu nifer o ymatebion gan yr awdurdod lleol i'r 'Ymgynghoriad ar Ganllawiau Statudol ar Gasglu Gwastraff Papur, Metel, Plastig a Gwydr ar Wahân' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2014.  Mae'r rhain yn cael eu hystyried a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt maes o law.  Mae rhai o'r ymatebion gan awdurdodau lleol yn debyg mwy neu lai i ymatebion awdurdodau lleol i'r 'Trywydd Rheoliadau Gwastraff' a gyhoeddwyd gan WRAP  gan bod hyn yn cyd-fynd â'r Canllawiau Statudol drafft. 

 

Cael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng arferion casglu deunydd ailgylchu a chyfraddau ailgylchu.

 

Mae'r dadansoddiad cychwynnol o'r data gan awdurdodau lleol ar y system WasteDataFlow yn awgrymu bod tan-gofnodi anfwriadol o'r cyfraddau gwrthod gan nifer o awdurdodau lleol, gan ei gwneud yn anodd felly i gymharu perfformiad mewn ffordd ystyrlon.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i WRAP gynllunio'r llif o ddeunyddiau gwastraff o ddeiliaid tai i gyrchfannau terfynol, gan ystyied y rhai sy'n gwrthod ar bob rhan o'r daith.  

 

Bydd Rheoliadau'r Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau sy'n berthnasol o fis Hydref 2014, gobeithio, yn golygu y caiff y nifer sy'n gwrthod neu'n llygru y Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau eu mesur yn fwy cywir.  Mae'r Cyfleuster yn amrywio o gyfleusterau didoli safonol sydd wedi derbyn deunyddiau cymysg i gyfleusterau eilaidd a thrydyddol sy'n didoli deunyddiau i gynhyrchu deunyddiau o safon uwch.   

 

Barn Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n cael ei darparu gan WRAP a nifer o ymgyngoreion yw y bydd cyfraddau ailgylchu net ychydig yn wahanol rhwng awdurdodau lleol sy'n defnyddio casgliadau ar wahân (fel yn y Patrwm) a'r rhai sy'n defnyddio casgliadau cymysg.  Fodd bynnag, mae gwaith diweddar gan WRAP yn dangos, pe byddai hyn yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru, yna byddai gwasanaethau sy'n cyd-fynd â'r Patrwm Casgliadau yn arwain at gyfradd ailgylchu genedlaethol o dros 70%.    Bydd hyn yn wir am wasanaethau cymysg hefyd.  Mae'r dystiolaeth fodd bynnag yn nodi bod manteision amgylcheddol ac ariannol cyrraedd cyfraddau ailgylchu uchel tebyg yn llawer mwy.  Mae hyn yn cynnwys effaith ôl troed ecolegol llai a chostau is fesul uned wrth gyflawni gwasanaethau. 


 

ANNEX 1

EVIDENCE USED TO DEVELOP, UPDATE AND TEST THE COLLECTIONS BLUEPRINT

 

Since the study was carried out there have been changes that have led to there being even greater differences between the carbon impacts of the respective approaches. The development of Resource Recovery Vehicles (RRVs) specifically designed to enable recycling collections using fuel efficient vehicles has reduced the carbon impacts of separately collecting recyclables.

 

The value of separate collections is that materials can be prepared and bulked at a depot and then sent on directly to re-processors. Co-mingled materials require MRFs. The ADAS study assumed a primary MRF only. Several waste companies now openly describe their business models as being based on performing secondary sorting. The primary MRF will sort into material types and a secondary MRF will sort into paper grades, plastic polymers, glass colours etc. Such secondary sorting is required to produce materials required by re-processors that are carrying out high quality recycling. The introduction of secondary sorting introduces a new tier of carbon (and financial) costs.

 

 

 

 

 

“To secure [sic] used paper collected in Europe can be recycled in the paper industry, multi-material collection schemes (“co-mingled collection”) where all recyclable materials are collected in one stream must not spread further in Europe and must be phased out where it already exists. Co-mingled collection leads to contact with organic materials, a higher share of unusable materials and refuse and is therefore less resource efficient and more costly.

 Countries where co-mingled collection is predominant today must make significant progress towards the targets on separate collection set out by the Waste Directive.”

 

 

 

 

“In separate collection systems the processed material is of better quality to meet the specifications necessary for the bottle-to-bottle production and is cost competitive in relation to the use of virgin raw materials. Other systems, like co-mingled collections can be either too costly or provide glass only suitable for low-grade applications (e.g. as aggregate). These applications are literally a waste – because the material is lost forever from the circular economy.”

 

 

 

“On the evidence available to WRAP, our view is that kerbside sort systems offer reliable material quality and lower net costs for council taxpayers. They are also capable of capturing the same volume of material as co-mingled schemes. There is no evidence that their operation – properly explained and justified – is unacceptable to householders and the physical evidence of sorting of materials happening at the kerbside is reassuring to sceptical residents. There appear to be no unmanageable health and safety considerations. Because of our priority for quality materials as a way to improve resource efficiency, WRAP believes that kerbside sort collections should be preferred where they are practical and that should be in the majority of local authority areas.”

 

Oakdene Hollins Ltd ‘Maximising Reuse and Recycling of UK Clothing and Textiles’ report for Defra, October 2009. The report suggested that separate collections of textiles would be needed to promote high quality recycling:

 

“The availability of kerbside collection of used textiles has almost doubled since 2002 to over 30%, but is still only half of that for glass, plastics and metals. The growth of co-mingled household collections is a threat to greater recycling and reuse, as textiles are unattractive to MRF operators and the collection methods often result in poor quality.”

 

This illustrates the rationale for separate collections that the waste industry promoted ten years ago. The Welsh Government took account of such arguments during the development of its strategies and policies. It is considered that this rationale applies just as much today – that separate collections have lower environmental impacts and enable local authorities to provide lower cost services.

 

 

 

“During this period our collection crews had been trying to identify properties that are placing non-targeted materials in their bins and attach stickers to the bins advising of the problems.

 

The above exercise resulted in a reduction in the amount of recycling we are collecting at the kerbside (over 15% in some areas) with a similar increase in tonnages being delivered to our Household Waste Recycling Centres (HWRC). Whilst this material is not lost from our recycling performance, it is sent to a MRF better suited to dealing with a combination of materials. Again, this is at a substantially increased cost.”

 

 

 

 

 

 

“If truth and reality are accepted using existing norms true recycling rates could flatline in 2012 and 2013.

 

When recyclate prices were high in 2011 all parties were driven forward on a strong wind and contamination and fines were effectively ignored.

 

But reality hit hard in 2012 in both the public and private sectors and we all have had to address the issues or go home. I believe the corrected norm of 5% contamination/fines became 18%+ by the end of 2012 and this is how we started 2013. There will be those that wish to ignore the facts but if the new Defra MRF rules are implemented later this year and the sampling is effectively standardised there will be no hiding place for delivering excessive fines/contamination to a MRF.”

 

If MRF rejects are being under-reported, especially if contamination is as high as Mr Glover reports, then this will lead to over reporting of recycling rates.

 

 

Contrary evidence: